Finance Committee

Y Pwyllgor Cyllid

 

 

 

 

 

 

 

 

I Gadeiryddion yr Ardaloedd Menter

 

 

 

 Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

 

14 Mai 2013

 

Gwahoddiad i roi tystiolaeth – Ardaloedd Menter

 

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn gwahodd pob un o fyrddau'r Ardaloedd Menter i roi tystiolaeth ysgrifenedig i lywio ei ymchwiliad byr i Ardaloedd Menter Cymru.  Mae'r Pwyllgor hefyd yn bwriadu cynnal ymweliadau a gwahodd rhai o'r cadeiryddion i roi tystiolaeth lafar.

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad

Diben yr ymchwiliad hwn yw ystyried y cynnydd a wnaed ym mhob un o'r saith ardal fenter. Mae gan y Pwyllgor Cyllid ddiddordeb arbennig ym mewnbynnau ariannol yr ardaloedd menter a'u hallbynnau disgwyliedig.

Er mwyn cynorthwyo ei ymchwiliad, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar unrhyw un o'r pwyntiau a ganlyn, neu ar bob un ohonynt:

·         Faint o adnoddau Llywodraeth Cymru sy'n cael eu targedu at yr Ardaloedd Menter?

·         Pa ddylanwad y mae byrddau'r Ardaloedd Menter yn ei gael ar yr adnoddau hynny?

·         Beth yw amcanion strategol pob un o fyrddau'r Ardaloedd Menter?

·         Beth yw'r cymhellion penodol sydd ar waith i annog busnesau i fuddsoddi a lleoli eu pencadlysoedd ym mhob un o Ardaloedd Menter Cymru?

·         Pa allbynnau a chanlyniadau penodol y mae pob un o'r Ardaloedd Menter yn gobeithio eu cyflawni? (gan gynnwys nifer y swyddi a gaiff eu creu, nifer y busnesau a gaiff eu cefnogi, nifer y busnesau a fydd yn cael budd o ostwng ardrethi busnes, a nifer y busnesau sy'n defnyddio lwfansau cyfalaf uwch)

·         Pa bethau y mae pob un o'r Ardaloedd Menter wedi'u cyflawni hyd yn hyn?

·         Beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf o ran defnyddio lwfansau cyfalaf uwch, a beth yw'r potensial i ehangu'r defnydd a wneir o'r lwfansau hyn i ragor o Ardaloedd Menter Cymru?  

·         Beth yw'r effaith ddisgwyliedig ar ardaloedd sy'n ffinio'r Ardaloedd Menter neu sydd y tu allan iddynt?

·         Sut y gellir sicrhau bod yr Ardaloedd Menter yn cael yr effaith orau bosibl ar yr economi leol?  (gan gynnwys drwy ddatblygu cadwyni cyflenwi sy'n defnyddio busnesau lleol)

·         A yw'r prosesau ar waith i sicrhau bod yr Ardaloedd Menter yn cael eu monitro a'u gwerthuso mewn modd effeithiol?

·         Pa ddull gweithredu sy'n cael ei ddefnyddio i sicrhau bod Ardaloedd Menter Cymru yn creu gweithgarwch economaidd ychwanegol?

 

 

Darparu gwybodaeth i'r Pwyllgor

 

Rydym yn eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor Cyllid, gan ddefnyddio'r cyfeiriad a nodir uchod, erbyn dydd Mawrth 4 Mehefin 2013. Os hoffech gyfrannu ond eich bod yn pryderu na fyddwch yn gallu cyflwyno eich tystiolaeth erbyn y dyddiad cau, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor ar 029 2089 8409.

 

Os yw'n bosibl, dylech anfon fersiwn digidol, ar ffurf MS Word neu Destun Cyfoethog, mewn neges e-bost at PwyllgorCyllid@cymru.gov.uk erbyn dydd Mawrth 4 Mehefin 2013.

 

Datgelu Gwybodaeth

 

Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor.

 

Mae'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisiau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â'u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

 

Bwriad y Pwyllgor yw cyhoeddi tystiolaeth ysgrifenedig ar ei wefan, ac mae’n bosibl y bydd y dystiolaeth hon yn cael ei chyhoeddi gyda'r adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef, ac eithrio sylwadau neu ddata personol sy'n berthnasol i'ch statws fel awdur y dystiolaeth a'r statws yr ydych yn ei ddefnyddio, os o gwbl, i gyflwyno'r dystiolaeth (er enghraifft, teitl eich swydd). 

 

Fodd bynnag, os yw cais am wybodaeth (gan gynnwys data personol) yn cael ei gyflwyno o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych, neu ran ohono.  Gall hyn gynnwys data personol a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi (yn unol â'r drefn a ddisgrifir uchod).

 

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, neu os nad ydych am ddatgelu'r ffaith mai chi yw awdur y dystiolaeth dan sylw, mae'n rhaid ichi nodi hyn yn glir, a'ch cyfrifoldeb chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid yma: www.cynulliadcymru.org

 

Yn gywir

 

Jocelyn Davies

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid